Wednesday 11 June 2008

"Y Maniffesto Comiwnyddol" yn Cymraeg

Diolch yn fawr iawn a Plaid Sosialaidd Cymru y Leftwing Criminologist:

Y Maniffesto Comiwnyddol, ysgrifennwyd gan Karl Marx a Friedrich Engels ym 1848 yw dogfen arloesol Marxiaeth. Ers ei gyhoeddiad gwreiddiol cyfieithiwyd ef i sawl iaith; cyhoeddwyd y cyfieithiad cyntaf Cymraeg ym 1948, gan Blaid Gomiwnyddol Prydain, i ddathlu canmlwyddiant y Maniffesto.

W.J. Rees a gyyfieithodd y Maniffesto o’r Almaeneg i’r Gymraeg. Ganwyd e yn Nhyddewi ym 1914, graddoedd yn Hanes, o Brifysgol Aberystwyth, ac oedd bellach Uwch-Ddarlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Leeds. Cyhoeddodd e sawl papur academig, yn ogystal â bywgraffiad Lenin mewn cyfres Y Meddwl Modern (Gwasg Gee 1981).

Mae’r Maniffesto Comiwnyddol, cyn berthnasol heddiw ac erioed, yn cael ei gyhoeddiad newydd yma i nodweddu penblwydd 160ydd y Maniffesto, yn ogystal â phenblwydd 60ydd y cyhoeddiad Cymraeg cyntaf, ac i’w wneud ar gael unwaith eto i Sosialwyr a myrfyrwyr Marxiaeth.

Ailgyhoeddwyd cyfieithiad wreiddiol Cymraeg W.J. Rees, ar-lein, gan Blaid Sosialaidd Cymru, gyda chytundeb y Blaid Gomiwnyddol Cymreig (Pwyllgor Cymreig y CPB)

Ni'n unig sy’n gyfrifol am unrhyw camgymeriadau yn nhrawsgrifiad tecst W.J. Rees. Os hoffech gopi ar bapur, cysylltwch â Phlaid Sosialaidd Cymru.

Geoff Jones a Kate Jones
Plaid Sosialaidd Cymru
Mehefin 2008

Darllenwch y ddogfen ar y sgrin

Llwythwch y ffeil i lawr (.pdf)

No comments: